CHWILIWCH AM RYSÁIT BWYD DROS BEN
Canolradd ryseitiau
-
Os oes gennych chi weddillion tatws i’w defnyddio yn yr oergell neu’r rhewgell, beth am roi cynnig ar y rysáit syml hon gan Blas y Tir...
-
Rhoddir y rysait cig oen yma, i ni gan Hybu Cig Cymru. Mae’n engraifft ardderchog o sut, gyda ychydig o cynhwysion, gellir defnyddion cig oen dros ben i wneud pryd syml blasus.
-
Mae’r crempogau blasus hyn yn boblogaidd iawn mewn bwytai Tsieineaidd, a gallwch eu gweini yn lle bara gyda llawer o brydau, neu gyda saws dipio sbeislyd yn rhan o bryd o fwyd Tsieineaidd.
-
Bara banana llaith a sylweddol, heb glwten, yw’r ffordd orau o ddefnyddio bananas goraeddfed. Mae’n rhwydd iawn i’w baratoi a’i goginio ac yn berffaith ar gyfer picnic hamddenol a thrît te prynhawn.
-
Dyma syniad gwych ar gyfer pwdin. Mae llawer llai o fraster yn y rysáit yma nag sydd yn yr un draddodiadol, a gallwch chi roi pob math o bethau ynddi.
-
Os oes llysieuwyr yn dod i’ch parti, yna byddan nhw’n dwlu ar y rhain; i wneud byrbryd ychydig yn fwy sylweddol, gallwch eu gweini gyda bara pitta wedi’i gynhesu, saws tsili a salad.
-
Mae’r pryd enwog hwn o’r Wcráin yn bryd poblogaidd i’r teulu ac yn ffordd flasus i adfywio cyw iâr a defnyddio unrhyw hen fara.
-
Nid yw semolina bob amser yn rhywbeth hawdd i ddod o hyd iddo yn eich archfarchnad leol, ond mae’n werth chwilio amdano i wneud y pwdin blasus hwn o’r Wcráin.
-
Pryd gwych i wneud y mwyaf o unrhyw datws sydd gennych chi yn eich cypyrddau. Yn draddodiadol, caiff Babka Tatws ei fwyta fel pryd ochr, ond gallech ei fwyta’n hawdd fel prif gwrs llysieuol.
-
Os oes gennych chi unrhyw fyns y Grog dros ben, defnyddiwch y rhain yn lle bara gwyn, a lleihau faint o sinamon y byddwch yn ei ychwanegu at y gymysgedd.
-
Mae’n llawn ansoddau a blasau cyferbyniol, ac mae’n un o’r ryseitiau hynny y bydd y teulu cyfan yn dwlu arni - mae’n gweithio’n dda gyda chyw iâr wedi’i goginio hefyd.
-
Gallwch wneud y cyri blasus hwn gan ddefnyddio ciwbiau o gig oen dros ben o’ch cinio rhost.