LFHW | Page 2 | Love Food Hate Waste Wales
  • Rydym ni wedi edrych ar hanner dwsin o resymau, macro a micro, dros ymuno â’r frwydr i gadw ein bwyd allan o’r bin.

  • Mae Eiriolwyr Delfrydol yn caru bwyd ac maen nhw eisoes yn gwneud llawer o’r pethau sydd angen eu gwneud i ymestyn eu bwyd ymhellach. Rydych chi’n mwynhau eich trefn ond rydych chi’n agored i ddysgu fwy i ychwanegu at y sgiliau sydd gennych eisoes. Mae eich profiad yn eich gwneud chi’n ffynhonnell gwybodaeth am fwyd, a gallech helpu pobl eraill o’ch cwmpas i wneud y mwyaf o’u bwyd hefyd, trwy rannu beth rydych chi’n ei wybod.

  • Mae Crëwyr Digymell yn credu’n gryf yn yr achos arbed bwyd, ac maent yn teimlo bod llawer o resymau cymhellol dros newydd arferion gwael. Mae gennych chi feddwl rhyddfrydig, ac rydych yn mwynhau’r elfen o deimlo’n dda, sy’n cyd-fynd â gwneud eich rhan. Rydych chi’n ymfalchïo yn eich unigolrwydd, ond rydych chi’n gwybod y gall newidiadau cymharol fach mewn ymddygiad gael effaith fawr.

  • Beth fyddech chi’n ei wneud gydag arbediad o £70 y mis dros flwyddyn? Dyma rai syniadau i gychwyn.

  • Mae Bwytäwyr Pwrpasol yn bwyta i fyw, yn hytrach na byw i fwyta. Nid yw bwyd bob amser ar frig eich rhestr o flaenoriaethau, ond nid ydych chi’n hoffi’r syniad y gallech chi fod yn gwastraffu bwyd y gallech ei fwyta. Rydych chi’n credu, gyda’n gilydd, y gallwn wneud gwahaniaeth, ac rydych chi’n gwerthfawrogi gweithredoedd da cyflym a hawdd y gallwn ni gyd eu gwneud bob dydd.

  • Mae Darganfyddwyr Dyheadol yn aml yn ymwybodol o iechyd ac yn frwd dros yr amgylchedd. Rydych chi’n hoffi gwneud eich rhan er budd cyfunol ac rydych chi’n credu yn eich gallu i newid pethau er gwell. Rydych chi’n frwdfrydig ac mae eich cyflawniadau arbed bwyd yn haeddu cael eu cydnabod, ond rydych chi’n gwybod bod wastad mwy y gallech chi ei wneud.

  • Gwelwch sut mae’n fwy gwyrdd a doeth pan fyddwn yn chwarae’n rhan gyda’n gilydd – daw â manteision gwirioneddol i’n hamgylchedd, nawr ac i genedlaethau i ddod.

  • Awgrymiadau syml a syniadau newydd ar gyfer storio a defnyddio tameidiau bwyd a bwyd dros ben yn ystod tymor y Nadolig – troi ysgewyll diflas yn ddantaith blasus.

  • Mae’n ffordd wych o ddefnyddio pasta dros ben. Yn ogystal â phys, gallwch ychwanegu pa bynnag lysiau wedi’u rhewi sydd gennych e.e. ffa Ffrengig.

  • Gallwch wneud y pate hwn gan ddefnyddio pa bynnag bysgodyn tun sydd gennych chi yn eich cwpwrdd, gan gynnwys tiwna neu eog. Os nad oes gennych chi ddigon o gaws meddal, gallwch ychwanegu hufen neu crème fraiche ato.

  • Mae’r pryd syml hwn i un yn defnyddio symiau bychan o lysiau a chig wedi’i goginio dros ben. Gallwch ei storio yn yr oergell i’w gael i ginio'r diwrnod wedyn.