Wyddoch chi fod bara wedi’i dostio’n syth o’r rhewgell yr un mor flasus â bara o’r cwpwrdd? Wir i chi! Teflir 20 miliwn o dafelli bara cyfan yn y DU bob dydd – gan amlaf am na chawsant eu defnyddio mewn pryd.
Mae hynny’n golygu bod unigolyn cyfartalog yn y DU yn taflu mwy ha hanner torth o fara bob mis! Gallwch gadw bara'n hirach trwy ei rewi, a'i ddefnyddio yn syth o'r rhewgell i wneud tost.
Rydym am eich ysbrydoli gyda syniadau ar gyfer eich tost, i ddangos bod tost yn fwy na dim ond dewis diflas ar gyfer brecwast. Byddwch yn greadigol gyda'ch torth, arbrofwch gyda'r topins blasus, cyfleus a fforddiadwy ymysg ein syniadau topins tost!
Cofiwch rannu eich hoff dopins tost gyda #BaraCrasuNidGwastraffu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roi cynnig ar rai o’r rhain: