BETH I’W WNEUD

Mae angen dŵr, ynni, tanwydd a phecynnu i gynhyrchu’r bwyd rydym yn ei fwynhau a’i brynu. Ai yn y bin y mae’n perthyn mewn gwirionedd?

Gellir bwyta hanner y bwyd rydym yn ei daflu, ac mae ei gadw allan o’r bin yn dda i’n pocedi ac i’r blaned ynghyd.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth. Dyma beth y gallwch chi ei wneud...

1. CYNLLUNIWCH EICH SIOPA I GAEL MWY O WERTH AM EICH ARIAN

Gallwch arbed arian a helpu’r blaned drwy brynu dim ond yr hyn rydych chi’n debygol o’i fwyta.

Defnyddiwch ein cynllunydd dognau i gyfrifo faint o gynhwysion sydd eu hangen arnoch chi a’r teulu i fwyta’n iach.

Neu, darllenwch ein herthyglau isod sy’n llawn awgrymiadau a chynghorion i arbed arian i chi yn yr archfarchnad.

2. GWNEUD I’CH BWYD BARHAU’N HIRACH

3. I WNEUD Y GORAU O’CH SIOPA, DEFNYDDIWCH YR HYN A BRYNWCH

Gwnewch i’ch bwyd fynd ymhellach... gyda’r rysetiau gorau ar gyfer bwyd dros ben. Dyma rysetiau sydyn, hawdd i’w defnyddio.

Defnyddiwch y bwyd rydych chi wedi gwario’ch arian arno. Dyma rysetiau syml, creadigol i’ch helpu i ddefnyddio eich bwyd dros ben. Gallwch arbed amser ac arian!

Hoff rysetiau’r genedl ar gyfer bwyd dros ben

Erthyglau diweddaraf

  • 8 bwyd na wyddoch chi y gallwch eu cyflawni. Ein sialens i chi – rhowch gynnig arnynt!

  • Nawr ein bod yn gwybod ei bod yn gwneud synnwyr i ni gyflawni ein bwyd, sut mae manteisio i’r eithaf ar eich cynhwysion blasus? Dyma gynghorion i’ch helpu i fwrw ati.

  • Ydych chi’n taflu ambell i ddarn o gyw iâr sydd wedi mynd yn angof yn yr oergell? Dyna wastraff. Gallwch roi’r gorau i hynny heddiw gyda’r cynghorion hyn ar gyfer defnyddio’r cyw iâr i gyd – gan arbed arian a helpu’r amgylchedd. Mae pawb ar ei ennill.

  • Efallai y bydd hyn yn eich synnu, ond cyw iâr, twrci ac ati yw un o’r bwydydd rydyn ni’n ei wastraffu fwyaf. Fodd bynnag, gyda chynghorion a syniadau syml, gallwch storio unrhyw gyw iâr neu gig tebyg yn ddiogel, i’w gadw’n fwy ffres yn hirach.

  • Ni ddylai’r un darn o fara fynd i’r bin. Mwynhewch bob tafell o’ch torth – boed hi’n dorth surdoes chwaethus, darn o fara gwenith cyflawn neu rôl fara dros ben – gyda’r cynghorion a rysetiau syml hyn.

  • Hoffech chi wneud y gorau o’r bara a brynwch a mwynhau bob tafell? Bydd ein cynghorion yn arbed arian i chi ac yn helpu i dynnu bara oddi ar frig y rhestr o fwydydd a wastreffir fwyaf yn y Deyrnas Unedig.

  • Mae llaeth yn gynhwysyn cudd defnyddiol ym mhob math o rysetiau – felly does dim angen ei daflu.

  • Mae’r daten ar eich plât wedi cael siwrne hir – o’r had i’r fferm ac o’r siop i’ch plât. Er hynny, mae tatws yn ail ar y rhestr o fwydydd a wastreffir fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma sut i drysori eich tatws.

  • Wedi’u stwnshio, eu rhostio neu eu ffrio – rydym yn dwlu ar datws. Dyma sut i wneud y gorau o bob taten ar eich plât.

  • Ydych chi’n arllwys llaeth wedi suro lawr y sinc ar ddiwedd yr wythnos? Os felly, mae’n bryd i bethau newid. Gallwch arbed arian ac atal gwastraff gyda’r cynghorion syml yma ar gyfer cadw llaeth yn ffres.

  • Dewiswch frand eich oergell o’r ddewislen isod ac Oerwch eich Oergell.

  • Prif awgrymiadau ar gyfer achub eich bananas o'r bin.

  • Y newyddion da, hyd yn oed i bobwyr achlysurol, yw bod gan lawer o gynhwysion fywyd silff hir ac maent yn iawn i’w defnyddio hyd yn oed wedi’r dyddiad sydd wedi ei roi – bydd blawd, siwgr, cynhwysion codi, blasau, sudd, triog a sawl math o ffrwythau, cnau a sbeisys yn para am amser hir yn eich cypyrddau.

  • Wrth bobi neu brynu ar gyfer unrhyw achlysur mae’n hawdd iawn i brynu gormod neu goginio gormod ‘rhag ofn’. Mae hi hefyd yn demtasiwn i brynu popeth sydd ei angen bob tro yr ydych yn teimlo’n greadigol – yn enwedig gan fod cymaint o gynhwysion pobi wedi dod i’r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gall hyn adael cypyrddau’n orlawn o ddarnau bach ar gyfer pobi...

  • Oherwydd bywydau prysur, mae'n werth gofyn i chi eich hun, trwy goginio ychydig back yn fwy ar gyfer eich pryd gyda'r nos, a allai ddarparu cinio syml ar gyfer y diwrnod nesaf?

  • Os oes angen dwyn perswâd arnoch o hyd ynghylch bwyta bwyd dros ben amser cinio, gweler isod syniadau gwreiddiol i paratoi mwy o fwydydd dros ben amser cinio...

  • Oherwydd bywydau prysur, mae’n werth gofyn i chi eich hun, trwy goginio ychydig bach yn fwy ar gyfer eich pryd gyda’r nos, a allai ddarparu cinio syml ar gyfer y diwrnod nesaf?

  • Awgrymiadau syml a syniadau newydd ar gyfer storio a defnyddio tameidiau bwyd a bwyd dros ben yn ystod tymor y Nadolig – troi ysgewyll diflas yn ddantaith blasus.