PAM ARBED BWYD
Swyddogaeth orau eich bwyd yw bod ar blât – yn barod i’w fwynhau. Mae arbed bwyd yn arbed arian ac yn helpu i arafu cynhesu byd-eang a datgoedwigo. Mae lleihau faint o fwyd sy’n mynd i’r bin hefyd yn golygu y gallwch ddweud hwyl fawr wrth becynnu gwastraff diangen. Pe baem i gyd yn gwneud newidiadau bach ac yn dechrau defnyddio’r bwyd yr ydym yn ei brynu, gyda’n gilydd, gallwn greu gwahaniaeth mawr.
Sut gallaf elwa? Defnyddiwch yr hyn yr ydych yn brynu ac arbedwch £70 y mis i’ch teulu. Felly mae yna gyfle aruthrol i ni i gyd dorri ar yr hyn yr ydym yn ei wario wrth y til drwy arbed mwy o’r bwyd a brynwn rhag mynd i’r bin... ac mae’n dipyn haws na’r hyn feddyliech chi!
Gall troi llai o fwyd yn sbwriel greu newid gwirioneddol i’r byd o’n cwmpas – ac mae hynny’n rhywbeth y gallwn ni gyd fynd i’r afael ag ef. Darllenwch ragor i ddysgu mwy am sut i fod yn llai gwastraffus a gwyrdd ac am yr hyn allech chi ei wneud gyda’r arian y byddech yn ei arbed.
“Felly mae yna gyfle aruthrol i ni i gyd dorri ar yr hyn yr ydym yn ei wario wrth y til drwy arbed mwy o’r bwyd a brynwn rhag mynd i’r bin.”
Erthyglau diweddaraf
-
-
Gwelwch sut mae’n fwy gwyrdd a doeth pan fyddwn yn chwarae’n rhan gyda’n gilydd – daw â manteision gwirioneddol i’n hamgylchedd, nawr ac i genedlaethau i ddod.
-
Beth fyddech chi’n ei wneud gydag arbediad o £70 y mis dros flwyddyn? Dyma rai syniadau i gychwyn.
-
Rydym ni wedi edrych ar hanner dwsin o resymau, macro a micro, dros ymuno â’r frwydr i gadw ein bwyd allan o’r bin.
-
Mae Mary Berry yn awdur bwyd enwog sy’n adnabyddus am ei sgiliau pobi a choginio ar Aga. Yn y sesiwn holi ac ateb cyflym hon, mae'n rhannu ei phrif awgrymiadau ar gyfer caru eich bwyd dros ben.